Prin iawn yw’r cyfleoedd i Gatholigion Cymraeg ddod ynghyd i ddathlu gwasanaethau’r Eglwys yn eu hiaith eu hunain. Felly, mae hi’n fraint ac yn achos o lawenydd mawr i allu cynnal pererindod flynyddol i’n Cysegrfan Genedlaethol.
Eleni, prin iawn hefyd oedd y nifer o bererinion a lwyddodd gyrraedd Aberteifi – ac offrymwyd gweddi yn ystod yr Offeren am yr holl rai oedd wedi methu â dod y tro hwn oherwydd salwch.
I’r rhai a oedd yn bresennol, cafwyd gwledd ysbrydol a’r llawenydd o allu rhannu hynny gyda ffrindiau o Bererindod Genedlaethol Cymru i Lourdes.
Dechreuodd y bererindod gyda rhagddangosiad o’r rhaglen a ffilmiwyd yn ystod Pererindod Genedlaethol Cymru i Lourdes ym mis Gorffennaf eleni ac a fydd yn ymddangos ar S4C ar nos Sul, Hydref 25 am 8 o’r gloch (i gael is-deitlau Saesneg, gwasgwch 888).
Ar ôl cyfle i siarad â’r cynhyrchwyr yn y neuadd, aethom draw i’r Eglwys i gael ein harwain yn y Llaswyr gan Tad Jason Jones, offeiriad plwyf Aberteifi a Threfnydd Pererindod Genedlaethol Cymru.
Dan arweiniad Tad Jason ac yng nghwmni côr eglwys Gatholig Castell Newydd Emlyn a’r organyddes fedrus o Aberystwyth, Jane Leggett, dathlwyd Gwasanaeth Bendith y Sagrafen Fendigaid, ac fe ganodd y côr Litani newydd o waith Martin Strong i goffáu Sant Rhisiart Gwyn, merthyr cyntaf Cymru yn ystod teyrnasiad Elisabeth y Cyntaf.
Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Jane ac i’r côr am eu cyfraniad holl-bwysig i gerddoriaeth yr Offeren a ddathlwyd gan Esgob Daniel Mullins wedi’i gynorthwyo gan Tad Jason Jones. Canwyd Offeren Fair y Tapyr o gyfansoddiad y diweddar Abad Alan Rees, U.S.B., cyn-Abad Abaty Belmont. Yn ei bregeth, dywedodd Esgob Daniel mor bwysig oedd sylweddoliad Pedr pan ddywedodd wrth Iesu “Ti yw’r Meseia”, a bod yr un sylweddoliad yn bwysig ym mywyd pob Cristion. Rhoddodd anogaeth hefyd i barau priod fyw eu galwedigaeth yn unol â gwerthoedd yr Efengyl.
Cafodd waith merched y plwyf - a wnaeth agor y stondin grefyddol ac darparu te a choffi –
ei werthfawrogi gan y pererinion. Diolch yn fawr i Tad Jason ac i’r plwyf am y croeso.
Cylch Catholig Pilgrimage to Cardigan – October 4, 2009
Few are the opportunities for Welsh-speaking Catholics to come together to celebrate services of the Catholic Church in their own language.
This year, few also were the number of pilgrims who managed to arrive in Cardigan – and a prayer was offered during Mass for all pilgrims who had not been able to attend because of sickness or failing health.
Those who were present had a spiritual feast – and the joy of being able to share it with friends from the Welsh National Pilgrimage to Lourdes.
The pilgrimage began with a previewing of the programme which was filmed during the Welsh National Pilgrimage to Lourdes in July this year and which will be shown on S4C on Sunday evening, October 25 at 8 o’clock (for English subtitles, press 888).
After an opportunity to speak with the producers in the hall, we went over to the Church to be led in the Rosary by Fr. Jason Jones, parish priest of Cardigan and Organiser of the Welsh National Pilgrimage.
Under the leadership of Fr. Jason and in the company of the very competent choir of Our Lady Queen of Peace from Newcastle Emlyn and the talented organist from Aberystwyth, Jane Leggett, Benediction was celebrated and the new Litany written by Martin Strong in memory of Sant Rhisiart Gwyn , Wales’ first martyr during the reign of Elizabeth I, was sung for the first time.
We are also very thankful to Jane and the choir for their all-important contribution to the music of the Mass which was celebrated by Bishop Daniel Mullins assisted by Fr. Jason Jones. The Mass of Our Lady of the Taper by the late Alan Rees, O.S.B., former Abbot of Belmont, was sung. In his sermon, Esgob Daniel said how important Peter’s realisation was when he said to Jesus “You are the Meseiah”, and that the same realisation is important in the life of every Christian. He also addressed married couples, giving them encouragement to live their vocation in accordance with the values of the Gospel.
The work of the ladies of the parish who opened the piety stall and who also provided tea and coffee for pilgrims was also much appreciated. Many thanks to Fr. Jason and the parish for the welcome.
 |