| |
Fund-raising in the Aberystwyth area
Ieuenctid Cymru I Lourdes, Plwyf Aberystwyth
Cafwyd Noson Gerdd wefreiddiol yng Nghanolfan y Morlan
ar nos Sadwrn, Ionawr 3, gydag eitemau offerynnol a lleisiol gan nifer o
artistiaid talentog iawn. Cafodd y gynulleidfa wledd o gerddoriaeth
glasurol, draddodiadol a chyfoes – a chanu yn Gymraeg, Saesneg, Eidaleg
ac Almaeneg.
Diolch i bawb a gymerodd ran – Dwynwen (telyn), Gwenllian (soddgrwth),
Rebecca a Joe (lleisiol a gitâr), Elinor a Heddwen (ffidil a phiano),
Catrin a Gwenllian (lleisiol a phiano), Côr CYD Aberystwyth (lleisiol),
Nic ac Emyr a Twm “Violetones”(gitarau, bongo a lleisiol), ac Aeron
(piano). Diolch i’r cyflwynwyr, Swyn a Millie. Diolch hefyd i Lleucu a
Niamh am ofalu am y raffl ac i bawb a fu wrthi’n helpu wrth y drws a
chyda’r lluniaeth.
Welsh Youth to Lourdes, Parish of Aberystwyth
The Music Evening held in Y Morlan on Saturday,
January 3 was really cool. The audience was treated to a feast of music
by very talented artists, with eitems ranging from classical to
traditional and to contemporary music – and singing in Welsh, English,
Italian and German.
A big thanks to all who took part – Dwynwen (harp), Gwenllian(cello),
Rebecca and Joe(vocal and guitar), Elinor and Heddwen(violin and piano),
Catrin and Gwenllian(vocal and piano), CYD Aberystwyth Choir (vocal),
Nic and Emyr and Twm “Violetones” (guitars, bongo and vocal), and Aeron
(piano). Thanks as well to the presenters, Swyn a Millie. Also thanks to
Lleucu and Niamh for looking after the raffle and to everyone who helped
at the door and with the refreshments.
Ieuenctid Cymru i Lourdes
Bob blwyddyn, mae nifer o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yn
mynd i Lourdes gyda mudiad 'Ieuenctid Cymru i Lourdes' (Welsh Youth to
Lourdes) i weithio’n wirfoddol i helpu cleifion a phobl anabl sydd ar
bererindod yno o Gymru.
Mae’r mudiad yn gweithredu oddi fewn i’r Eglwys Gatholig ac hefyd yn
croesawu pobl ifanc nad ydynt yn gatholigion.
Ym mis Gorffennaf 2007, aeth grŵp o bedwar o wirfoddolwyr o blwyf
Aberystwyth i Lourdes i weithio yno am wythnos fel rhan o garfan
Ieuenctid Cymru i Lourdes. Nhw oedd y grŵp cyntaf o Ogledd Ceredigion i
wneud hynny.
Yng Ngorffennaf 2008, aeth 4 o bobl ifanc o Aberystwyth –2 am y tro
cyntaf, a 2 yn dychwelyd am yr ail waith.
Mae’r grŵp nawr wrthi yn trefnu gweithgareddau i godi arian ar gyfer
mynd yng Ngorffennaf 2009. Bydd pob cyfraniad yn helpu – ac maent yn
ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.
Gweithgareddau 2008-2009
Mae Clwb 100 wedi cael ei sefydlu er mwyn codi arian tuag at eu costau (aelodaeth
£10 – gofynnwch am fanylion).
Bydd Noson Gerdd yn Y Morlan, ar Nos Sadwrn, Ionawr 3, 2009. Drysau’n
agor am 7.15, cerddoriaeth yn dechrau am 7.30. Tocynnau wrth y drws.
Oedolion £5, plant £2
Dewch i fwynhau noson o adloniant gan nifer o gerddorion a chantorion
dawnus sydd yn byw yn lleol.
Ar Nos Sadwrn, Mawrth 28, 2009 cynhelir Twmpath Dawns yn Y Morlan.
Manylion ar gael yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.
Am ragor o wybodaeth:
a-enlli@hotmail.co.uk
07854 682829
Welsh Youth To Lourdes
Every year, a number of young people between 16 and 25
years of age go to Lourdes with the Welsh Youth To Lourdes movement in
order to work voluntarily to help sick and disabled people who are on
pilgrimage there from Wales.
The movement operates within the Catholic Church and also welcomes young
people who are not catholics.
In July 2007, a group of four volunteers from the parish of Aberystwyth
went to Lourdes with the Welsh Youth To Lourdes contingent to work there
for a week. They were the first group from North Ceredigion to do so.
In July 2008, 4 young people from Aberystwyth went – 2 for the first
time, and 2 returning for the second time.
The group is now organizing fund-raising events in order to go in July
2009. Every contribution will help - and the group is very grateful for
your support.
Events for 2008-2009
A 100 Club has been set up in order raise money towards their costs
(membership £10 – please ask for details).
A Music Evening will take place in Y Morlan, on Saturday, January 3,
2009. Doors open at 7.15, music commencing at 7.30. Tickets available at
the door. Adults £5, children £2. (see poster)
Come along and enjoy an evening of entertainment by a number of talented
musicians and singers who live locally.
On Saturday, March 28, 2009, a Twmpath Dawns will be held in Y Morlan.
Details available shortly in the New Year.
For further information:
a-enlli@hotmail.co.uk
07854 682829
|